Neeme Külm

Dylan Thomas
Sgwâr Dylan Thomas, Marina Abertawe

kulm

kulm

kulm

Mae Neeme Külm yn ceisio creu newid canfyddiadau am yr amgylchedd dinesig arferol; anelir ei brif gymhelliant yn ei waith tuag at ymateb y gwylwyr, gan ysgogi ymwybyddiaeth uwch o’r hyn sy’n rhy gyfarwydd i hyd yn oed sylwi arno. Yn achos Abertawe a’i thrigolion, mae delwedd a phresenoldeb yr hoff fardd, Dylan Thomas, a’i bwysigrwydd diwylliannol yn y ddinas yn gwneud achos o’r fath. Sylwodd Külm bod sawl cyfeiriad at Dylan Thomas ledled y ddinas, gan gynnwys y cerflun efydd yn Sgwâr Dylan Thomas ac mae’n myfyrio ar sut y byddai Abertawe’n cael ei heffeithio os oedd y cerflun yn diflannu.


Mae ei waith celf yn archwilio anwyldeb Abertawe tuag at y bardd. Wrth wneud hyn, mae ei ymyrraeth â Dylan Thomas yn symud o’r cyffredin, eiliad o syndod ac ansicrwydd. Mae’n ystyried arwyddocâd eiconau diwylliannol a’r effaith efallai a gânt, os o gwbl, ar ddinas. Sut byddai Abertawe yn wahanol heb Dylan Thomas?


Ganwyd Neeme Külm yn Võru, Estonia ac ar hyn o bryd mae’n byw ac yn gweithio yn Nhallinn, Estonia.


Astudiodd Külm Gerflunwaith yn Academi Celfyddydau Estonia, Tallinn ac mae wedi arddangos ei waith yn helaeth yn Nhallinn ac yn Ewrop.

Tags: ,

Leave a Reply

Spam Protection by WP-SpamFree