Land and Sea
Nghanolfan Siopa’r Cwadrant / Orsaf Fysus



Mae Neville Gabie wedi creu prosiect sydd yn darlunio wyneb Abertawe yn llythrennol: ei thirwedd, ei hadeiladau a’i nenlinell sy’n newid o hyd.
Drwy deithio ar amrywiaeth o lwybrau bysus o amgylch y ddinas, mae Gabie wedi cynhyrchu cyfres o luniadau ar ffenestri’r bws yn yr eiliadau prin pan arhosodd i godi teithwyr. Drwy ffilmio’r broses hon, daeth yn ffordd o fapio a’r gipolwg y mae rhywun yn gweld wrth deithio trwy’r ddinas.
Ynghyd â’r daith ar y bws, mae Gabie yn cyflwyno dwy ffilm baralel, taith drên ar draws Siberia a thaith ar y môr i Antarctica. Trwy gyflwyno’r tair taith gyda’i gilydd, yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant ger yr orsaf fysus, mae’n creu man cychwyn trosiadol ar gyfer taith y dychymyg, yn ogystal â lle go iawn i ddechrau ar sawl antur yn Abertawe.
Ganwyd Neville Gabie yn Johannesburg, De Affrica ac erbyn hyn mae’n byw ac yn gweithio yn Stroud, y DU.
Cwblhaodd MA mewn cerflunwaith yn y Coleg Celf Brenhinol ym 1988. Mae wedi cael sawl cyfnod preswyl rhyngwladol, ac mae wedi curadu a threfnu prosiectau oddi ar y safle yn y DU. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn helaeth yn rhyngwladol ac yn genedlaethol.
