Mae Locws Rhyngwladol yn gweithio gydag artistiaid rhyngwladol i greu prosiectau celfyddydau gweledol dros dro mewn ardaloedd cyhoeddus a hygyrch ar draws dinas Abertawe. Ym mhob prosiect mae lleoliad neu gyd-destun yn rhan annatod o’r gwaith. Trwy ddefnyddio amrywiaeth eang o leoliadau, mae Locws Rhyngwladol yn darparu llwyfan unigryw i brofi celf gyfoes.
Trwy ei raglen arloesol, mae Locws Rhyngwladol yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd newydd i artistiaid ac yn gweithredu o fewn fframwaith hyblyg a chefnogol i alluogi cynhyrchu gwaith blaengar a dynamig.
Mae partneriaethau’n allweddol i ddigwyddiadau Locws Rhyngwladol ac mae’r sefydliad yn ymdrechu i gydweithio ag ystod eang o artistiaid, pobl, lleoliadau a busnesau i ddatblygu a gwneud y mwyaf o gyfleoedd creadigol ar draws y ddinas.
Tags: Locws International
