There Is Nothing Left Of The Sea But Its Sound
Uned 1a, Sgwâr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau



Mae gwaith Tanya Axford yn tarddu o ddatgelu hanes morol cyfoethog Abertawe a pherthynas y ddinas yn arbennig ag effaith dramatig a phwerus y môr. Mae’n gweld hyn o fewn elfennau adfywio ac ‘ail-greu’ Abertawe ac yn benodol gydag ailddatblygiad LC, Canolfan Hamdden
newydd sbon Abertawe.
Mae LC, parc dŵr amlochrog, yn cyfleu rhyfeddod naturiol y môr sy’n annarogan, yn wyllt ac yn anhydrin, ac yn creu fersiwn gryno y gellir ei rheoli wrth wneud ‘drama’r’ môr yn ddiogel ac yn ddifyrrus.
Mae Axford wedi creu fideo sy’n chwarae â’r berthynas hon, gan roi darlun o’r môr wrth i storm ddechrau. Mae trac sain dramatig yn gefndir i’r fideo, ar ôl i’r tonnau gyrraedd uchafbwynt, ac wrth i’r darn barhau mae’r tirlun go iawn yn cael ei ddatgelu.
Ganwyd Tanya Axford yng Nghaint ac mae’n byw ac yn gweithio yn Newcastle upon Tyne.
Cwblhaodd Axford BA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle ac MA mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain ac ar hyn o bryd, mae’n cael ei chynrychioli gan Oriel Workplace,
Gateshead.
16 Mai 2009
Dydd Sadwrn 18 Ebrill
Perfformiad gan Paul Granjon a Dynion dawns
6.15pm, fordwya bontio, Tawe afon Seremoni Iansio 7pm, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dydd Mercher 22 Ebrill
Teithiau tywys 1pm, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dydd Sadwrn 25 Ebrill
Teithiau tywys 2pm, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dydd Llun 27 Ebrill
Symposiwn: Locws yn ei Gyd-destun 1pm, Canolfan Celf a Dylunio Dinefwr, Stryd De la Beche, am ddim, yn agored i bawb
Dydd Mercher 29 Ebrill
Teithiau tywys 1pm, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dydd Sadwrn 2 Mai
Teithiau beicio llywbr 11am, Sgwâr Technium SA1 Glannau
Teithiau tywys 2pm, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dydd Mercher 6 Mai
Teithiau tywys 1pm, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dydd Sadwrn 9 Mai
Teithiau tywys 2pm, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dydd Sul 10 Mai
Locws yn cau 5pm
14 Ebrill 2009
View Locws International 2009 in a larger map
Tanya Axford There is nothing left of the sea but its sound
Uned 1a, Sgwâr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Megan Broadmeadow Ship-Shape
Pontŵn yr Amgueddfa Abertawe, Marina Abertawe
Neville Gabie Land and Sea, Nghanolfan Siopa’r Cwadrant / Orsaf Fysus
Paul Granjon Sail Bridge Music Action
Perfformiad ar y Bont Hwyliau nos Sadwrn 18 Ebrill am 6.15pm, Dogfennau am y digwyddiad yng Nghanolfan Locws, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Neeme Külm Dylan Thomas
Sgwâr Dylan Thomas, Marina Abertawe
Marko Mäetamm Graveground
Lawnt yr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ffordd Ystumllwynarth, Heol Oystermouth
Aisling O’Beirn Some Swansea Sites
Sgwâr Technium, Heol y Brenin | Lawnt yr amffitheatr | Arglawdd rheilffordd Lawnt yr Amgueddfa, Heol Victoria | Glan môr y Ganolfan Ddinesig
Calum Stirling Tilt–shift
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
13 Ebrill 2009
There Is Nothing Left Of The Sea But Its Sound
Uned 1a, Sgwâr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae gwaith Tanya Axford yn tarddu o ddatgelu hanes morol cyfoethog Abertawe a pherthynas y ddinas yn arbennig ag effaith dramatig a phwerus y môr. Mae’n gweld hyn o fewn elfennau adfywio ac ‘ail-greu’ Abertawe ac yn benodol gydag ailddatblygiad LC, Canolfan Hamdden
newydd sbon Abertawe.
Mae LC, parc dŵr amlochrog, yn cyfleu rhyfeddod naturiol y môr sy’n annarogan, yn wyllt ac yn anhydrin, ac yn creu fersiwn gryno y gellir ei rheoli wrth wneud ‘drama’r’ môr yn ddiogel ac yn ddifyrrus.
Mae Axford wedi creu fideo sy’n chwarae â’r berthynas hon, gan roi darlun o’r môr wrth i storm ddechrau. Mae trac sain dramatig yn gefndir i’r fideo, ar ôl i’r tonnau gyrraedd uchafbwynt, ac wrth i’r darn barhau mae’r tirlun go iawn yn cael ei ddatgelu.
Ganwyd Tanya Axford yng Nghaint ac mae’n byw ac yn gweithio yn Newcastle upon Tyne.
Cwblhaodd Axford BA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle ac MA mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain ac ar hyn o bryd, mae’n cael ei chynrychioli gan Oriel Workplace,
Gateshead.
12 Ebrill 2009
Ganwyd Tanya Axford yng Nghaint ac mae’n byw ac yn gweithio yn Newcastle upon Tyne.

Mae gwaith Axford yn manteisio ar ein cynefindra â sefyllfaoedd a deunyddiau bob dydd, a’n disgwyliadau ohonynt. Gan greu gosodiadau, perfformiadau a gwaith fideo chwareus, mae’n cynnig ‘dihangfa’ annisgwyl i’r gwyliwr o drefn arferol bywyd bob dydd drwy harneisio’i nodweddion, a threfnu gwrthrychau a digwyddiadau cyffredin a di-nod mewn ffordd gelfydd yn weithiau celf hudolus sy’n dathlu potensial di-glod y ‘cyffredin’.
Cwblhaodd Axford BA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle ac MA mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain ac ar hyn o bryd, mae’n cael ei chynrychioli gan Oriel Workplace,
Gateshead.

Ymhlith ei harddangosfeydd a’i chyfnodau preswyl mae: ‘Tomorrow the Future’, Oriel Fishmarket, Northampton; ‘All my Favourite Singers couldn’t Sing…’, Oriel Workplace, Newcastle; ‘Hand me Down’, Gwyl Caeredin, Caeredin (cydweithrediad ar draws ffurfiau celf); ‘Gwyl Gelfyddydau Camberwell’, Camberwell, Llundain; ‘‘The B-side’, Oriel Gelf Grundy, Blackpool (unigol); ‘View Halloo’, Turner Contemporary, Margate (unigol); ‘The Interval’, Oriel Gymnasium Berwick, Berwick (unigol) ; ‘Babel’s Folly’, Locus+, Newcastle. Bu hefyd yn artist preswyl sawl gwaith ac mae ganddi gymrodoriaethau, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae ei gwaith yng nghasgliadau Celfyddydau’r Llywodraeth a Chasgliad UBS.
8 Mawrth 2009