|
Locws Rhyngwladol
Mae Locws Rhyngwladol yn gweithio gydag
artistiaid rhyngwladol i greu prosiectau
celfyddydau gweledol dros dro mewn ardaloedd
cyhoeddus a hygyrch ar draws dinas Abertawe.
Ym mhob prosiect mae lleoliad neu gyd-destun
yn rhan annatod o’r gwaith. Trwy ddefnyddio
amrywiaeth eang o leoliadau, mae Locws
Rhyngwladol yn darparu llwyfan unigryw i brofi
celf gyfoes.
Trwy ei raglen arloesol, mae Locws Rhyngwladol
yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd newydd i
artistiaid ac yn gweithredu o fewn fframwaith
hyblyg a chefnogol i alluogi cynhyrchu gwaith
blaengar a dynamig.
Mae partneriaethau’n allweddol i ddigwyddiadau
Locws Rhyngwladol ac mae’r sefydliad yn
ymdrechu i gydweithio ag ystod eang o artistiaid,
pobl, lleoliadau a busnesau i ddatblygu a gwneud
y mwyaf o gyfleoedd creadigol ar draws y ddinas.
Sefydlwyd Locws Rhyngwladol ym 1999 gan yr
artistiaid Tim Davies a David Hastie a hyd yn hyn
mae wedi dod â dros 40 prosiect i Abertawe.
|