Hafan | Am Locws | Locws 3 | Locws 2 | Locws 1 | Ysgolion Locws | Y Wasg | English

Locws 3
14 Ebrill - 13 Mai 2007

CYNNWYS CELF, POBL A LLEOEDD
Locws 3 yw dychweliad y digwyddiad CELF AR DRAWS Y DDINAS a fydd yn arddangos deg gwaith celf newydd dros dro a grëwyd gan artistiaid o bob rhan o Ewrop mewn lleoliadau ar draws ardaloedd canolog a morol dinas Abertawe

Caiff y gweithiau celf cyfoes eu cynhyrchu fel ymateb uniongyrchol i ddiwylliant, treftadaeth, pensaernïaeth a phobl y ddinas ac maent i’w gweld ar lawer o wahanol ffurfiau: o dafluniadau fideo, gosodiadau sain ac ymyriadau mewn amgueddfeydd i weithiau sy’n seiliedig ar ffotograffau, gwrthrychau a deunyddiau

Ni fydd rhaid talu i weld yr holl weithiau celf a bydd mapiau o’u lleoliadau ar gael o Amgueddfa Abertawe a Neuadd y Ddinas ym mis Ebrill


Rhona Byrne / Milena Dopitova / Carwyn Evans / Rebecca Gould / Torsten Lauschmann / Niamh McCann / Sara Rees / Helen Sear / Jaan Toomik / Zoe Walker & Neil Bromwich

 

ysgolion LOCWS

Gan gydweithio ag Adran Celfyddydau ym Myd Addysg Dinas a Sir Abertawe, bydd Ysgolion Locws yn cynorthwyo disgyblion ledled Abertawe i greu eu prosiectau celf eu hunain sy’n canolbwyntio ar leoliadau penodol i gyd-fynd â’r gwaith celf yn Locws 3

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i Ysgolion Locws

catalog: locws 3

10 o artistiaid, 10 o weithiau celf, 10 safle, 76 o dudalennau ar gelfyddydau safle benodol ar draws dinas Abertawe o Locws 3

Delweddau lliw o’r holl weithiau celf, testun gan Debbie Savage, Tim Davies, David Hastie ac Grace Davies

£9.95 + Postio a phecynnau
Gellir archebu drwy e-bost: locws (at) locwsinternational (dot) com

ISBN 0-9545291-1-1

 

cefnogaeth gan

The Arts Council of Wales | The City & County of Swansea | The Millennium Stadium Charitable Trust | Wales Arts International | Cywaith Cymru - Artworks Wales | The Henry Moore Foundation | National Waterfront Museum | Welsh Assembly Government - SA1 Swansea Waterfront | Swansea Institute | Supporters Logos