Hafan | Am Locws | Locws 3 | Locws 2 | Locws 1 | Ysgolion Locws | Y Wasg | English

LOCWS INTERNATIONAL

Locws International gan yr artistiaid David Hastie and Tim Davies ym 1999 er mwyn cydweithio gydag artistiaid gweledol cyfoes o Gymru a rhannau eraill o’r byd. Ei nod yw creu gweithiau celf newydd safle benodol ar gyfer mannau hygyrch a chyhoeddus y tu allan i gyd-destun orielau traddodiadol ar draws Dinas Abertawe

Llwyfannodd y sefydliad ei ddigwyddiad cyntaf yn 2000 i ddathlu Blwyddyn yr Artist, ac yn dilyn y llwyddiant hwnnw, llwyfannwyd Locws 2 yn 2002. Yn y ddau ddigwyddiad bu cydweithredu rhwng Locws International a’r artistiaid o fewn y ddinas, gan greu dros 30 o weithiau celf dros dro gan 27 o artistiaid, o’r Deyrnas Unedig a thramor. Cyflwynwyd y rhain mewn 15 lleoliad a man agored gwahanol ar draws y ddinas

Cynhyrchodd y digwyddiadau ymdeimlad newydd o ffocws ac egni dros y celfyddydau gweledol, gan estyn amrywiaeth y gwaith oedd yn cael ei arddangos yng Nghymru. Fe’u dathlwyd yn eang am eu gweledigaeth ddeinamig fel profiad unigryw a blaengar o’r celfyddydau gweledol

Penododd Locws International Grace Davies yn Rheolwr Prosiect ar gyfer Locws 3

CYSWLLT
e-bost: locws (at) locwsinternational (dot) com

 

 

catalog: locws 3

10 o artistiaid, 10 o weithiau celf, 10 safle, 76 o dudalennau ar gelfyddydau safle benodol ar draws dinas Abertawe o Locws 3

Delweddau lliw o’r holl weithiau celf, testun gan Debbie Savage, Tim Davies, David Hastie ac Grace Davies

£9.95 + Postio a phecynnau
Gellir archebu drwy e-bost: locws (at) locwsinternational (dot) com

ISBN 0-9545291-1-1

 

catalog

27 o artistiaid, 30 o weithiau celf, 15 safle, 96 o dudalennau ar gelfyddydau safle benodol ar draws dinas Abertawe o Locws 1 (2000) a Locws 2 (2002)

Delweddau lliw o’r holl weithiau celf, testun gan Tim Davies, David Hastie, Felicia Hughes-Freeland ac Emma Safe

£9.95 + Postio a phecynnau
Gellir archebu drwy e-bost: locws (at) locwsinternational (dot) com

ISBN 0-9545291-0-3

cefnogaeth gan

The Arts Council of Wales | The City & County of Swansea | The Millennium Stadium Charitable Trust | Wales Arts International | Cywaith Cymru - Artworks Wales | The Henry Moore Foundation | National Waterfront Museum | Welsh Assembly Government - SA1 Swansea Waterfront | Swansea Institute