|
TEITHIAU ADDYSGOL
Mae Locws 3 yn arddangos ystod eang o waith celf cyfoes
o amgylch Abertawe, gan ganolbwyntio ar waith safle benodol. Mae’r
gweithiau celf, a grewyd mewn sawl cyfrwng gan artistiaid rhyngwladol,
yn darparu taith hynod ddiddorol ar gyfer myfyrwyr. Bydd y teithiau
tywys o amgylch y gweithiau’n symbyliad gweledol cyffrous i fyfyrwyr
ymateb iddo a’i gwestiynu. Yn sgîl yr ysbrydoliaeth a geir
o’r ymweliadau, bydd disgwyl i’r myfyrwyr ymateb i waith
neu weithiau celf penodol, a ddylai fod yn rhai safle benodol i amgylchedd
eu hysgol neu eu coleg eu hunain
Yn ystod y teithiau, bydd yr artist David Marchant yn annog myfyrwyr
i ymateb i’r gweithiau celf wrth geisio dod i ddeall ystyr y gwaith
iddyn nhw a’r hyn mae’r artist yn ceisio’i gyflawni
â’r gwaith/gweithiau penodol yn eu barn nhw. Wedyn, bydd
pob darn o waith yn cael ei esbonio gan Marchant ac anogir y myfyrwyr
i ystyried sut gallai addasu i gyd-fynd ag amgylchedd eu hysgol neu
eu coleg hwy
Yn ystod y dydd, disgwylir i’r myfyrwyr bennu tasg iddynt eu hunain,
y byddant yn ymchwilio iddi erbyn diwrnod dau o’r cwrs, (ymweliad
David Marchant â’r ysgol neu’r coleg)
Gan fod deg gwaith gwahanol i’w gweld, ni fydd modd ymweld â
phob safle ar y daith. Mae hyn yn anffodus, ond gall y myfyrwyr ymweld
â’r safleoedd cyn y daith. Mae gwaith diddorol gan Helen
Sear yn Llyfrgell Ganolog Abertawe. Fe nodwch nad yw’r gwaith
hwn yn rhan o’r daith am ei fod mewn man cyhoeddus tawel. Fe’ch
cynghorir i weld y gwaith hwn cyn y daith
TAITH DYWYS A:
9.30am Cwrdd wrth Eglwys y Santes Fair - Rhona
Byrne
National Waterfront Museum - Torsten
Lauschmann
Swansea Marina - Sara Rees
Dylan Thomas Theatre - Niamh
McCann
Swansea Museum - Milena
Dopitova
Kings Road, SA1 - Carwyn Evans
Norwegian Church, SA1 - Rebecca
Gould
TAITH DYWYS B:
9.30am Cwrdd wrth Eglwys y Santes Fair - Rhona
Byrne
Swansea Museum - Milena
Dopitova
Dylan Thomas Theatre - Niamh
McCann
Swansea Marina - Sara Rees
National Waterfront Museum - Torsten
Lauschmann
Guildhall Council Chamber - Jaan
Toomik
Guildhall & Rotunda - Zoe
Walker & Neil Bromwich
|