Graveground / Active Arnie
Lawnt yr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Heol Oystermouth



Mae Marko Mäetamm wedi creu ardal chwarae anhrefnus ger canolfan hamdden newydd sbon a threfnus Abertawe, LC. Mae’r ysbrydoliaeth ar gyfer prosiect Mäetamm yn deillio o’i ganfyddiad o’r ddinas sy’n cael ei had-drefnu ac yn cyflwyno atyniadau newydd a gweithgareddau ar gyfer ei thrigolion. Cafodd ei ddenu hefyd i fywyd nos bywiog y ddinas, a natur anhrefnus a llawn bywyd noson yn ardal yfed Abertawe.
Mae’r gwaith celf yn cyfuno cymeriad lliwgar, anhrefnus Abertawe a’i ailgreu yn ddinas hamdden. Mae LC yn darparu cefndir addas i’r ardal chwarae hon sy’n llawn hunllefau. Mae’r ardal chwarae yn ymddangos yn sinistr ac yn apocalyptaidd y tu ôl i ffens dur.
Active Arnie
Lawnt yr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Heol Oystermouth
Arnie Aardvark Abertawe Actif (neu Arnie Actif) yw mascot newydd Abertawe Actif. Mae Arnie wrth ei fodd â chwaraeon a gemau. Weithiau, gellir ei weld mewn canolfan leol Abertawe Actif yn cael llawer o hwyl yn dysgu sut i chwarae pêl-droed a rygbi. Hoffai Arnie chwarae i dîm yr Elyrch neu’r Gweilch.
Nid yw Arnie’n colli unrhyw gyfle i gael hwyl, ac mae hefyd yn mwynhau chwarae badminton, tenis a phêl-rwyd. Mae’n hoff o gerdded a beicio i’r rhan fwyaf o leoedd. Mae Arnie’n hoffi ffrwythau a llysiau ffres. Mae’n well ganddo fwyta moron yn syth o’r ddaear a gwneud llawer o bethau cyffrous eraill.
Gallwch wybod mwy am Arnie ar: www.swansea.gov.uk
