Posts Tagged ‘Locws International 2007’

Locws International 2007 Catalogue


10 o artistiaid, 10 o weithiau celf, 10 safle, 76 o dudalennau ar gelfyddydau safle benodol ar draws dinas Abertawe o Locws International 2007

Rhona Byrne
| Milena Dopitova
| Carwyn Evans
| Rebecca Gould
| Torsten Lauschmann
| Niamh McCann
| Sara Rees
| Helen Sear
| Jaan Toomik
| Zoe Walker & Neil Bromwich



Delweddau lliw o’r holl weithiau celf, testun gan Debbie Savage, Tim Davies, David Hastie ac Grace Davies

£9.95 + Postio a phecynnau
Gellir archebu drwy e-bost: locws (at) locwsinternational (dot) com

ISBN 0-9545291-1-1


14 Mai 2007

Torsten Lauschmann

Piecework Orchestra
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

locws-3-iii-029

locws3-562

locws-3-iii-121


Wedi’i ysbrydoli gan ddau o allforion mwyaf Cymru, diwydiant a cherddoriaeth, mae Torsten Lauschmann wedi creu rhyngwyneb sy’n ei alluogi i reoli offer y cartref megis sugnwyr llwch, sychwyr gwallt a driliau i raglennu tonau a rhythmau cerddorol.


Mae ei ‘Piecework Orchestra’ yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn gwyrdroi’r syniad o gynhyrchu diwydiannol ac yn synnu’r gwyliwr â chacoffoni o swn.


Mae’r teitl yn deillio o’r term ‘piecework’ sy’n disgrifio’r mathau o waith lle mae gweithiwr yn cael ei dalu ‘fesul darn’ am bob uned a gynhyrchir neu waith a wneir.


15 Ebrill 2007

Rebecca Gould

The Trojan Horse
Yr Eglwys Norwyaidd, SA1

locws-3-062

locws-3-doc-1172

locws-3-doc-1178


Dyma fersiwn gyfoes Rebecca Gould o stori fytholegol Elen o Droea yn yr Eglwys Norwyaidd ar ffurf cerfluniau, ffilm a cherddoriaeth. Mae’n portreadu Elen yn gwibio o Abertawe ar gwch cyflym i gyfeiliant ‘Holding out for a hero’ gan Bonnie Tyler.


Cyflwynir y ffilm ym mol ceffyl pren Troea sydd nid yn unig yn adrodd hanes y gwarchae ar Droea, ond hefyd yn awgrymu gwarchae o fath newydd gan ddod a hudoliaeth a chyfoeth yn ei gragen.


15 Ebrill 2007

Carwyn Evans

A Grand View
Ffordd y Brenin, SA1

locws-3-doc-224

locws-3-doc-1148

locws-3-doc-120


Wedi’i ysbrydoli gan ‘ffrâm ddwbl ar gyfer llun’ yng nghasgliad Amgueddfa Abertawe a gerfiwyd yn ofalus gan forwr drwy gydgloi darnau o bren cerfiedig, mae Carwyn Evans wedi creu cyfres o ffasadau tebyg i wynebau tai sy’n efelychu darlun croeslinellol syml.


Mae’r ffasadau’n eiconau esthetig o gymharu â’r fflatiau newydd yn y cefndir yn SA1. Maent yn ein hatgoffa am orffennol ddiwydiannol Abertawe mewn modd iasol ond hefyd yn awgrymu ei statws newydd fel dinas newydd ac ar dwf.


15 Ebrill 2007

Milena Dopitova

Everything returns because it loses its way
Vojta
We still do not know where will be the last cemetery

Amgueddfa Abertawe

locws-3-016

locws-3-022

locws-3-052


Mae Milena Dopitova yn ymyrryd yn y casgliad yn Amgueddfa Abertawe i ystyried profiad personol o wrthrychau hanesyddol a’u hailgysylltu â chyn-ddefnydd posib.


Yn yr Oriel Cerameg, gallwn glywed sgyrsiau am yr arteffactau sy’n awgrymu syniadau am eu perchnogion a’u hanes, gan roi cyd-destun hanesyddol iddynt unwaith eto. Mae cyfres o luniau sy’n rhoi sylw i gynnwrf rhyfel yn portreadu ofn a phryder yr artist ac mae ffilm am fachgen ifanc sy’n dechrau dysgu chwarae’r ffidil yn amlygu ei gamgymeriadau a’i emosiynau i bawb.


15 Ebrill 2007

Rhona Byrne

Learning to fly over Swansea
Eglwys y Santes Fair

locws-3-455

locws-3-474


Mae Rhona Byrne wedi bod yn treulio amser uwchben Abertawe mewn cyfres o wersi hedfan. Yn ei ffilm emosiynol ac atgofus, mae’n dogfennu’r persbectif diwygiedig hwn ar realaeth.


Wrth ddysgu sut i hedfan dros ddinas sy’n cael sylw ganddi fel artist, mae Rhona’n ystyried syniadau’n ymwneud â chred a’r rhyngweithio dirfodol gyda’r mannau agored o’n cwmpas.


Dangosir y ffilm yn Eglwys y Santes Fair, sef eglwys fwyaf Abertawe a’r un fwyaf canolog. Mae’n ein gwefreiddio mewn lleoliad myfyriol yn ogystal â phortreadu dinas sy’n cael ei gweddnewid.

plane8

Horizon Aviation Ltd., Swansea Airport, Fairwood Common, Swansea SA2 7JU. Tel: 01792 296600


15 Ebrill 2007

Sara Rees

Kairos
Marina Abertawe

locws-3-doc-027

locws-3-doc-054

locws3-550


I wneud y gwaith hwn, fe gasglodd Sarah Rees nifer o ddeunyddiau a olchwyd i’r lan ac a adawyd ar strydoedd, a’u defnyddio i adeiladu cerflun sy’n arnofio.


Gwrthrych sydd wedi cyrraedd yma o amser amhenodol yn y dyfodol yw rhagosodiad y gwaith. Gwahoddir y gynulleidfa i gredu’r amhosibl a dychmygu natur y dyfodol y daeth y gwrthrych hwn ohono.


15 Ebrill 2007

Niamh McCann

Flock Of Ospreys Looking For The Old Blind Sea Captain Who Dreams Of His Deceased Sea Fellows Under A Visiting African Sun
Theatr Dylan Thomas

locws-3-doc-190

locws-3-doc-188

locws3-2141

Mae Niamh McCann wedi’i hysbrydoli gan sawl elfen: mae’r môr/awyr yn y cefndir yn ei murlun yn gyflwyniad graffeg symlach o ddarlun ‘Bae Abertawe mewn Tywydd Garw’ gan James Harris H_n; arwyddlun cwmni sigarennau Affricanaidd sy’n rhoi’r haul coch; mae’r gweilch uwchben yn arwyddlun ac yn gyfeiriad at Abertawe, ac yn olaf, mae’r teitl yn cyfuno’r rhain i gyd ac yn mynegi presenoldeb cymeriad o Under Milk Wood gan Dylan Thomas.


Mae’r holl elfennau hyn (a’r storïau y tu ôl iddynt) yn dod ynghyd i greu tirwedd lleol ac amrywiol fel ei gilydd yn y rhan yma o Abertawe, sef y dirwedd dan sylw.


15 Ebrill 2007

Jaan Toomik

Seagulls
Dancing with Dad
Waterfall
Jaan
Siambr y Cyngor Neuadd y Ddinas

locws-3-142

locws-3-144

locws-3-ghm-116


Mae ffilmiau personol Jaan Toomik yn portreadu ymdeimlad o rwystredigaeth corfforol ac emosiynol yn ei ymdrechion ofer i gyfathrebu’n effeithiol.


Ac yntau’n cael ei ddangos yma yn ysblander Siambr y Cyngor, mae’r ffilmiau’n awgrymu cyfyngiadau sefydliadol a gwleidyddol, gan gynrychioli ein hanawsterau a’n diffygion ni fel unigolion o fewn yn system.


15 Ebrill 2007

Helen Sear

Plantasia
Llyfrgell Ganolog

locws-3-009

locws-3-lib-017

locws-3-lib-019

Gan gyfeirio at fyd ffantasi egsotig Paneli Brangwyn, tynnodd Helen Sear ei ffotograffau ar gyfer ‘Plantasia’ yn nhw poeth trofannol Abertawe.


Mae’r pellter byr rhwng Plantasia a’r ganolfan siopa nid yn unig yn cyferbynnu â’r ‘freuddwyd o ddianc’ a ddisgrifiodd Henri Rousseau, ond hefyd yn ei ymestyn. Dyna pryd yr ymwelodd Henri â thai gwydrog Paris i astudio ar gyfer ei baentiadau o’r jyngl. Mae llygaid caeedig y cymeriadau yn ffotograffau Helen yn rhoi cyfle iddynt synfyfyrio’n breifat er gwaethaf sylliad fforensig y camera.


15 Ebrill 2007