Mae Locws Rhyngwladol yn gweithio gydag artistiaid rhyngwladol i greu prosiectau celfyddydau gweledol dros dro mewn ardaloedd cyhoeddus a hygyrch ar draws dinas Abertawe.
Ym mhob prosiect mae lleoliad neu gyd-destun yn rhan annatod o’r gwaith. Trwy ddefnyddio amrywiaeth eang o leoliadau, mae Locws Rhyngwladol yn darparu llwyfan unigryw i brofi celf gyfoes.
Trwy ei raglen arloesol, mae Locws Rhyngwladol yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd newydd i artistiaid ac yn gweithredu o fewn fframwaith hyblyg a chefnogol i alluogi cynhyrchu gwaith blaengar a dynamig.
Mae partneriaethau’n allweddol i ddigwyddiadau Locws Rhyngwladol ac mae’r sefydliad yn ymdrechu i gydweithio ag ystod eang o artistiaid, pobl, lleoliadau a busnesau i ddatblygu a gwneud y mwyaf o gyfleoedd creadigol ar draws y ddinas.
Mae Locws International yn elusen gofrestredig (rhif cofrestru’r elusen 1123823)
Gweinyddiaeth
Chyfarwyddwr: David Hastie
Rheolwr Prosiect: Holly Davey
Ymddiriedolwyr
Howard Morgan (Chair)
Jane Clayton
Andrew Deathe
Craig Wood
Cyswllt
Locws International, 16 J Shed, Kings Road, Swansea SA1 8PL
Ffôn: + 44 (0) 1792 468979
E-bost: locws@locwsinternational.com
